Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Mai 2022
Amser:
09.00 -
13.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12845
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Peredur Owen Griffiths AS (yn lle Rhys ab Owen AS) Mike Hedges AS |
Tystion: |
Maria Bell, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dave Street, Association of Directors of Social Services (ADSS) |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Owain Davies (Ail Glerc) Elizabeth Foster (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a nododd etholiad Rhys ab Owen AS i'r Pwyllgor ar 10 Mai yn lle Cefin Campbell AS.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhys ab Owen AS a Rhianon Passmore AS. Dirprwyodd Peredur Owen Griffiths AS ar ran Rhys ab Owen AS.
2 Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Sesiwn dystiolaeth 3
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Maria Bell o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Dave Street o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
3 Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Sesiwn dystiolaeth 4
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
3.2 Gadawodd y Cadeirydd y cyfarfod dros dro ar ôl y cwestiwn cyntaf. Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Cafodd Natasha Asghar AS ei henwebu gan Peredur Owen Griffiths AS. Cymeradwyodd y Pwyllgor yr enwebiad.
4 Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol, fel rhan o'i waith craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem o fusnes a ganlyn:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.